AMDANOM NI

Mae Amgueddfa Gorsaf Borth yn ganolfan dreftadaeth newydd a diddorol, lle gallwch edrych yn ôl yn hiraethus ar oes aur y rheilffyrdd a gwyliau hapus ar lân y môr.

Yn dilyn gwaith adnewyddu, agorodd yr hen orsaf yn 2011 diolch i ymdrechion Gwirfoddolwyr Gorsaf Borth ynghyd â chefnogaeth gan sawl sefydliad lleol a chenedlaethol. Edrychwch ar ein gwefan i gael blas ar ein harddangosfa. Does dim tâl mynediad, felly galwch draw! Mae croeso i grwpiau ymweld â’r orsaf – cysylltwch â ni drwy’r wefan hon, gan roi eich manylion, a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl. Cadwch lygad ar ein llif X i weld ein dyddiadau ac amseroedd agor! Oherwydd mai gwirfoddolwyr sy’n rhedeg yr amgueddfa, gall amseroedd newid. Cadwch lygad ar ein cyfrif X a’n tudalen Facebook am y newyddion diweddaraf!