SUT I DDOD O HYD I NI...
Mae’r amgueddfa yn nhref Borth – tref glan-môr fach yng nghanolbarth Cymru, ychydig filltiroedd i’r gogledd o dref prifysgol Aberystwyth.
Ar y trên, mae’n hawdd dod o hyd i ni – Borth yw’r orsaf olaf ond un ar Brif Lein y Cambrian, ac mae trenau uniongyrchol yn rhedeg bob 2 awr o Birmingham New Street a Maes Awyr Birmingham. Os gallwch chi gyrraedd Birmingham neu Amwythig, yna mae hi’n daith gymharol fer i’n cyrraedd. Ar y bws, mae gwasanaeth bob awr o Aberystwyth yn ystod yr haf a bob 2 awr o Aberystwyth yn ystod y gaeaf – chwiliwch am fysiau rhif 512 o’r orsaf fysiau y tu allan i Orsaf Reilffordd Aberystwyth. Ar y llaw arall, os ydych chi’n teithio yma mewn car, anelwch am Aberystwyth neu Fachynlleth – dwy dref leol bwysig. O Aberystwyth, dilynwch y ffordd A487 i’r gogledd (i gyfeiriad Machynlleth) am tua 4 milltir i bentref Bow Street. Tua 3/4 milltir drwy’r pentref chwiliwch am y troad ar y chwith, a’r arwydd 'Borth'. Dilynwch y ffordd drwy bentref Llandre, a byddwch yn cyrraedd Borth. Ar ôl cyrraedd y gylchfan ger gorsaf bad achub yr RNLI, dilynwch y ffordd i’r dde, a gyrrwch yn ofalus drwy’r pentref nes bod dim adeiladau ar y llaw chwith. Bydd y gyffordd nesaf ar y dde yn eich arwain yn syth i’r orsaf. Parciwch, dewch â’ch camera gyda chi, a pharatowch i gamu nôl mewn amser! O Fachynlleth, ewch i gyfeiriad y de ar yr A487 (dilynwch yr arwydd am Aberystwyth) am tua 9 milltir. Trowch i’r dde gyferbyn â’r garej a thafarn y Wildfowler, a dilynwch y ffordd (a’r arwydd am Borth). Mewn tua 4 milltir byddwch yn cyrraedd glan-môr Borth. Dilynwch y ffordd i Borth nes i chi weld cyffordd ar eich llaw chwith. Trowch i’r chwith ac mae Gorsaf Borth ar y dde o’ch blaen.

