EIN HANES
Agorodd yr amgueddfa yn 2011, gan wireddu breuddwyd tîm bach o wirfoddolwyr a oedd yn benderfynol o achub yr hen orsaf adfeiliedig yn nhref fach glan-môr Borth.
Ar ôl blynyddoedd lawer o ymgyrchu, ceisiadau am gymorth, ac wrth gwrs, llawer o golli gwaed, chwys a dagrau, cafodd yr hen swyddfa docynnau, swyddfa’r rheolwyr a’r ystafell aros adfeiliedig ac anghofiedig eu gweddnewid yn ganolfan dreftadaeth.
Ar ôl misoedd o waith caled, agorodd amgueddfa’r orsaf ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid, ymwelwyr, a’r rheini sydd wrth eu bodd gyda rheilffyrdd a threftadaeth – y mae llawer ohonynt yn teithio i ganolbarth Cymru yn unswydd i weld yr adeilad bach hynod hwn, yng nghyrchfan glan-môr Borth.
Mae gan grŵp Gwirfoddolwyr Gorsaf Borth 15 aelod ac mae pob un ohonynt yn ymddiddori yn y datblygiadau yn yr orsaf ac yn eu cefnogi. Rydym yn croesawu unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan – naill ai fel aelodau gweithgar y tîm o wirfoddolwyr, neu bobl sy’n dymuno cefnogi’r prosiect pwysig hwn sy’n cefnogi treftadaeth y rheilffordd yn lleol. Cysylltwch â ni os hoffech gael rhagor o wybodaeth gan ddefnyddio’r manylion cysylltu ar y wefan.
Rydym wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan deithwyr sy’n sgwrsio gyda ni ar y platfform. Mae Gwirfoddolwyr Gorsaf Borth eisoes wedi ennill 3 Gwobr Genedlaethol am ymgysylltu â’r gymuned, darparu gwaith celf ar y platfform a mentrau amgylcheddol: enillodd un wobr gan Arriva Trains Wales, gwobr arall gan Network Rail fel rhan o’i Gynllun Gwobrau Amgylcheddol Cenedlaethol, a’r drydedd gan Cadwch Gymru’n Daclus.
Rydym hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer a derbyn tystysgrif canmoliaeth uchel am ein gwaith i adnewyddu’r orsaf yng Ngwobrau Treftadaeth y Rheilffyrdd / Railway Heritage Awards.
Ein nod yw darparu canolfan weithgareddau fywiog mewn adeilad a adnewyddwyd ar ôl cael ei esgeuluso a’i adael yn adfail, ond sydd bellach yn adnodd addysgol a chymdeithasol.
Rydym yn edrych ymlaen i’ch gweld yn yr amgueddfa, ac rydym yn gobeithio y bydd eich ymweliad yn brofiad pleserus.
ORIEL LUNIAU














